Ann PritchardJONESNoddfa, Y Bontnewydd. Dymuna teulu'r ddiweddar Ann Pritchard Jones ddiolch o galon am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd amlygwyd iddynt yn eu colled drist o golli Ann, drwy ymweliadau, galwadau ffon a chardiau lu. Diolch am y rhoddion hael o £725 a dderbynniwyd at Gronfa Ymchwil Dementia yn lleol. Diolch i'r Parchedigion Gwenda Richards, Reuben Roberts, Dafydd W. Wiliam ac R.E. Hughes, yng nghyd a Mrs. Eurwen Darwood, yr organyddes, am eu gwasanaeth ddydd yr angladd, a diolch i Huw a Beti Jones, Pontllyfni, yr ymgymerwyr, am y trefniadau. Diolch yn fawr i bawb.
Keep me informed of updates